44. A'r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a'i ddwylo mewn amdo: a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.
45. Yna llawer o'r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef.
46. Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.
47. Yna yr archoffeiriaid a'r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae'r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
48. Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw'r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a'n cenedl hefyd.
49. A rhyw un ohonynt, Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi'n gwybod dim oll,
50. Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.
51. Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai'r Iesu farw dros y genedl;
52. Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.
53. Yna o'r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef.
54. Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i'r wlad yn agos i'r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda'i ddisgyblion.