37. Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?
38. Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo'i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno.
39. Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.
40. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw?
41. Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A'r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf.
42. Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a'm hanfonaist i.
43. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan.
44. A'r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a'i ddwylo mewn amdo: a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.
45. Yna llawer o'r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef.
46. Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.
47. Yna yr archoffeiriaid a'r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae'r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
48. Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw'r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a'n cenedl hefyd.
49. A rhyw un ohonynt, Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi'n gwybod dim oll,
50. Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.
51. Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai'r Iesu farw dros y genedl;
52. Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.