25. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw'r atgyfodiad, a'r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw:
26. A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti'n credu hyn?
27. Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw'r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i'r byd.
28. Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.
29. Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.
30. (A'r Iesu ni ddaethai eto i'r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.)
31. Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi'n myned at y bedd, i wylo yno.
32. Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw.
33. Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a'r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd;
34. Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.
35. Yr Iesu a wylodd.
36. Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef.
37. Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?