Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:2-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.)

3. Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae'r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf.

4. A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw'r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.

5. A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a'i chwaer, a Lasarus.

6. Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.

7. Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.

8. Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?

9. Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o'r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni'r byd hwn:

10. Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo.

11. Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi'n myned i'w ddihuno ef.

12. Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.

13. Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd.

14. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11