Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:16-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd‐ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.

17. Yna yr Iesu wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.

18. A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi:

19. A llawer o'r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i'w cysuro hwy am eu brawd.

20. Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.

21. Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.

22. Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.

23. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn.

24. Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf.

25. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw'r atgyfodiad, a'r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw:

26. A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti'n credu hyn?

27. Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw'r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i'r byd.

28. Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.

29. Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11