12. Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.
13. Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd.
14. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus.
15. Ac y mae'n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef.
16. Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd‐ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.
17. Yna yr Iesu wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.
18. A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi:
19. A llawer o'r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i'w cysuro hwy am eu brawd.
20. Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.
21. Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.