5. Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.
6. Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
7. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.
8. Cynifer oll ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
9. Myfi yw'r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.
10. Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
11. Myfi yw'r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
12. Eithr y gwas cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu'r defaid.
13. Y mae'r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid.
14. Myfi yw'r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm hadwaenir gan yr eiddof fi.
15. Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau'r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.
16. A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.
17. Am hyn y mae'r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn.
18. Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i'w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i'w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
19. Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.
20. A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef?
21. Eraill a ddywedasant, Nid yw'r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?
22. Ac yr oedd y gysegr‐ŵyl yn Jerwsalem, a'r gaeaf oedd hi.
23. Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon.