24. Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw'r Crist, dywed i ni yn eglur.
25. Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi.
26. Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o'm defaid i, fel y dywedais i chwi.
27. Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a'u hadwaen hwynt, a hwy a'm canlynant i:
28. A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.
29. Fy Nhad i, yr hwn a'u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i.
30. Myfi a'r Tad un ydym.
31. Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i'w labyddio ef.
32. Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o'r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
33. Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
34. Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych?
35. Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a'r ysgrythur nis gellir ei thorri;)
36. A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tad, ac a'i hanfonodd i'r byd, Yr wyt ti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?
37. Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi:
38. Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau.