19. Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.
20. A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef?
21. Eraill a ddywedasant, Nid yw'r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?
22. Ac yr oedd y gysegr‐ŵyl yn Jerwsalem, a'r gaeaf oedd hi.
23. Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon.
24. Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw'r Crist, dywed i ni yn eglur.
25. Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi.
26. Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o'm defaid i, fel y dywedais i chwi.