1. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy'r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw.
2. Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy'r drws, bugail y defaid ydyw.
3. I hwn y mae'r drysor yn agoryd, ac y mae'r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.
4. Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef.
5. Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.
6. Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
7. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.
8. Cynifer oll ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
9. Myfi yw'r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.
10. Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
11. Myfi yw'r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
12. Eithr y gwas cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu'r defaid.