5. A'r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a'r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6. Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.
7. Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef.
8. Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.
9. Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd.
10. Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r byd nid adnabu ef.
11. At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.
12. Ond cynifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef:
13. Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.
14. A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
15. Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.
16. Ac o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras.
17. Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.