Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 1:39-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.

40. Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a'i dilynasent ef.

41. Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o'i ddeongl yw, Y Crist.

42. Ac efe a'i dug ef at yr Iesu. A'r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Jona: ti a elwir Ceffas, yr hwn a gyfieithir, Carreg.

43. Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.

44. A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr.

45. Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a'r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff.

46. A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl.

47. Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato; ac a ddywedodd amdano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll.

48. Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y'm hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a'th welais di.

49. Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw Brenin Israel.

50. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Oherwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy na'r rhai hyn.

51. Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 1