Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 1:25-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na'r Crist, nac Eleias, na'r proffwyd?

26. Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi:

27. Efe yw'r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o'm blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid.

28. Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.

29. Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau'r byd.

30. Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.

31. Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y deuthum i, gan fedyddio â dwfr.

32. Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o'r nef, ac efe a arhosodd arno ef.

33. A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw'r un sydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.

34. A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.

35. Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o'i ddisgyblion:

36. A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw.

37. A'r ddau ddisgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.

38. Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o'i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn trigo?

39. Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.

40. Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a'i dilynasent ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 1