14. A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
15. Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.
16. Ac o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras.
17. Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.
18. Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a'i hysbysodd ef.
19. A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti?
20. Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw'r Crist.
21. A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai'r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage.
22. Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i'r rhai a'n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun?
23. Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Eseias y proffwyd.
24. A'r rhai a anfonasid oedd o'r Phariseaid.