11. Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu'r gyfraith.
12. Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid.
13. Canys barn ddidrugaredd fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.
14. Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef?
15. Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth,
16. A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau'r corff; pa les fydd?
17. Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig.
18. Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau.
19. Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.
20. Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw?
21. Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor?
22. Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio.
23. A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef.
24. Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig.
25. Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi'r cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall?
26. Canys megis y mae'r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.