Hen Destament

Testament Newydd

Iago 2:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb.

2. Oblegid os daw i mewn i'ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael;

3. Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo'r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i:

4. Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg?

5. Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?

6. Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw'r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd?

7. Onid ydynt hwy'n cablu'r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi?

8. Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur:

9. Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr.

10. Canys pwy bynnag a gadwo'r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl.

11. Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu'r gyfraith.

12. Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid.

13. Canys barn ddidrugaredd fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.

14. Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef?

Darllenwch bennod gyflawn Iago 2