7. Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd.
8. Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.
9. Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth:
10. A'r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe.
11. Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yn ei ffyrdd.
12. Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef.
13. Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y'm temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb.
14. Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun.
15. Yna chwant, wedi ymddŵyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth.
16. Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch.
17. Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth.