Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 6:8-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi.

9. Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn.

10. Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a'r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i'r saint, ac ydych yn gweini.

11. Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd:

12. Fel na byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i'r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu'r addewidion.

13. Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun,

14. Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhau y'th amlhaf.

15. Ac felly, wedi iddo hirymaros, efe a gafodd yr addewid.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 6