Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 6:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson.

17. Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw:

18. Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen;

19. Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn i'r llen;

20. I'r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 6