1. Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw,
2. I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac atgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol.
3. A hyn a wnawn, os caniatâ Duw.
4. Canys amhosibl yw i'r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o'r Ysbryd Glân,
5. Ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw,
6. Ac a syrthiant ymaith, ymadnewyddu drachefn i edifeirwch; gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn watwar.
7. Canys y ddaear, yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymwys i'r rhai y llafurir hi ganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw:
8. Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi.