3. Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau.
4. Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron.
5. Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a'th genhedlais di.
6. Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.
7. Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i'w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd;
8. Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd‐dod trwy'r pethau a ddioddefodd:
9. Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo;
10. Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
11. Am yr hwn y mae i ni lawer i'w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau.
12. Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf.
13. Canys pob un a'r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw.
14. Eithr bwyd cryf a berthyn i'r rhai perffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.