Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 4:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau'r galon.

13. Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i'w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn.

14. Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes.

15. Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda'n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod.

16. Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 4