1. Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i'w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl.
2. Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gydâdymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant.
3. Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.
4. Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd.
5. Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i.
6. Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth;
7. Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.
8. Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall.
9. Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw.
10. Canys yr hwn a aeth i mewn i'w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau.
11. Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i'r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth.
12. Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau'r galon.