Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 4:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i'w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl.

2. Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant.

3. Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.

4. Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd.

5. Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i.

6. Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth;

7. Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.

8. Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall.

9. Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw.

10. Canys yr hwn a aeth i mewn i'w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 4