Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 3:7-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Am hynny, megis y mae'r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef,

8. Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch:

9. Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd.

10. Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i:

11. Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i'm gorffwysfa.

12. Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw.

13. Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod.

14. Canys fe a'n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd;

15. Tra dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad.

16. Canys rhai, wedi gwrando, a'i digiasant ef: ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aifft trwy Moses.

17. Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch?

18. Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i'w orffwysfa ef? onid wrth y rhai ni chredasant?

19. Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 3