Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 3:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i'r pethau oedd i'w llefaru;

6. Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd.

7. Am hynny, megis y mae'r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef,

8. Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch:

9. Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd.

10. Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i:

11. Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i'm gorffwysfa.

12. Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw.

13. Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod.

14. Canys fe a'n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd;

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 3