Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 3:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o'r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu;

2. Yr hwn sydd ffyddlon i'r hwn a'i hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef.

3. Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na'r tŷ.

4. Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw.

5. A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i'r pethau oedd i'w llefaru;

6. Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd.

7. Am hynny, megis y mae'r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef,

8. Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch:

9. Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd.

10. Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i:

11. Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i'm gorffwysfa.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 3