16. Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion; eithr had Abraham a gymerodd efe.
17. Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i'w frodyr; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl.
18. Canys yn gymaint â dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo'r rhai a demtir.