1. Am hynny y mae'n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli.
2. Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth;
3. Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy'r Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a'i clywsant ef:
4. A Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?
5. Canys nid i'r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru.
6. Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef?