Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 12:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o'n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a'r pechod sydd barod i'n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen ni;

2. Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle'r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.

3. Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau.

4. Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.

5. A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y'th argyhoedder ganddo:

6. Canys y neb y mae'r Arglwydd yn ei garu, y mae'n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.

7. Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu?

8. Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 12