Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 11:4-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i'w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto.

5. Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw.

6. Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a'i fod yn obrwywr i'r rhai sydd yn ei geisio ef.

7. Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy'r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.

8. Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i'r man yr oedd efe i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned.

9. Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o'r un addewid:

10. Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.

11. Trwy ffydd Sara hithau yn amhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had; ac wedi amser oedran, a esgorodd; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai.

12. Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a hwnnw yn gystal â marw, cynifer â sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif.

13. Mewn ffydd y bu farw'r rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear.

14. Canys y mae'r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad.

15. Ac yn wir, pe buasent yn meddwl am y wlad honno, o'r hon y daethent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd:

16. Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw, un nefol: o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt.

17. Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a'i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai'r addewidion:

18. Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti had:

19. Gan gyfrif bod Duw yn abl i'w gyfodi ef o feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth.

20. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 11