Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 11:30-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod.

31. Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda'r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi'r ysbïwyr yn heddychol.

32. A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Jefftha, am Dafydd hefyd, a Samuel, a'r proffwydi;

33. Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gaeasant safnau llewod,

34. A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddianghasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio.

35. Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad: ac eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell.

36. Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar:

37. Hwynt‐hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â'r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr;

38. (Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt,) yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear.

39. A'r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid:

40. Gan fod Duw yn rhagweled rhyw beth gwell amdanom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 11