Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 11:21-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac a addolodd â'i bwys ar ben ei ffon.

22. Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn.

23. Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 11