17. Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a'i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai'r addewidion:
18. Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti had:
19. Gan gyfrif bod Duw yn abl i'w gyfodi ef o feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth.
20. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent.
21. Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac a addolodd â'i bwys ar ben ei ffon.
22. Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn.
23. Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin.
24. Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo;
25. Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser;
26. Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau'r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy.
27. Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig.
28. Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg, a gollyngiad y gwaed, rhag i'r hwn ydoedd yn dinistrio'r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt.
29. Trwy ffydd yr aethant trwy'r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid, boddi a wnaethant.
30. Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod.
31. Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda'r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi'r ysbïwyr yn heddychol.
32. A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Jefftha, am Dafydd hefyd, a Samuel, a'r proffwydi;
33. Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gaeasant safnau llewod,
34. A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddianghasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio.
35. Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad: ac eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell.
36. Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar: