8. Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir;
9. Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail.
10. Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith.
11. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau:
12. Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw;
13. O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i'w draed ef.
14. Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio.
15. Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o'r blaen,
16. Dyma'r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a'u hysgrifennaf yn eu meddyliau;
17. A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwyach.
18. A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod.