31. Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo'r Duw byw.
32. Ond gelwch i'ch cof y dyddiau o'r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon:
33. Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â'r rhai a drinid felly.
34. Canys chwi a gydâddioddefasoch â'm rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus.
35. Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr.
36. Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.
37. Oblegid ychydig bachigyn eto, a'r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.
38. A'r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo.
39. Eithr nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.