23. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw'r hwn a addawodd;)
24. A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:
25. Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â'ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.
26. Canys os o'n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach;
27. Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa'r gwrthwynebwyr.
28. Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion:
29. Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy'r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras?
30. Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl.
31. Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo'r Duw byw.
32. Ond gelwch i'ch cof y dyddiau o'r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon:
33. Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â'r rhai a drinid felly.
34. Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â'm rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus.