Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 10:17-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwyach.

18. A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod.

19. Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i'r cysegr trwy waed Iesu,

20. Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy'r llen, sef ei gnawd ef;

21. A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw:

22. Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân.

23. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw'r hwn a addawodd;)

24. A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:

25. Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â'ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.

26. Canys os o'n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach;

27. Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa'r gwrthwynebwyr.

28. Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion:

29. Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy'r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras?

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 10