Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 10:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy'r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio'r rhai a ddêl ati.

2. Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith.

3. Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn.

4. Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.

5. Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i'r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi:

6. Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt.

7. Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw.

8. Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir;

9. Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail.

10. Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith.

11. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau:

12. Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw;

13. O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i'w draed ef.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 10