Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 1:8-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di.

9. Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i'th gyfeillion.

10. Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd:

11. Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant;

12. Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant.

13. Ond wrth ba un o'r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed?

14. Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 1