3. Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun.
4. Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall.
5. Canys pob un a ddwg ei faich ei hun.
6. A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â'r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da.
7. Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe.
8. Oblegid yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r Ysbryd, o'r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol.
9. Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.
10. Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
11. Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â'm llaw fy hun.
12. Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i'ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.