10. Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
11. Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â'm llaw fy hun.
12. Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i'ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.
13. Canys nid yw'r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw'r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.
14. Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i'r byd.
15. Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd.
16. A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.
17. O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau'r Arglwydd Iesu.
18. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda'ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.