Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 6:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau.

2. Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.

3. Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun.

4. Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall.

5. Canys pob un a ddwg ei faich ei hun.

6. A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â'r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da.

7. Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 6