Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Sefwch gan hynny yn y rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed.

2. Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi.

3. Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a'r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf.

4. Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras.

5. Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder.

6. Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.

7. Chwi a redasoch yn dda; pwy a'ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd?

8. Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.

9. Y mae ychydig lefain yn lefeinio'r holl does.

10. Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.

11. A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y'm herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes.

12. Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch.

13. Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i'r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd.

14. Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun.

15. Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd.

16. Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.

17. Canys y mae'r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a'r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a'r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.

18. Ond os gan yr Ysbryd y'ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf.

19. Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd,

20. Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau,

21. Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.

22. Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest:

23. Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf.

24. A'r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â'i wyniau a'i chwantau.

25. Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd.

26. Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.