2. Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad.
3. Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd:
4. Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf;
5. Fel y prynai'r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.
6. Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad.
7. Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.
8. Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.
9. Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?
10. Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.
11. Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer.
12. Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam.
13. A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf.
14. A'm profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu.
15. Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a'u rhoesech i mi.
16. A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir?
17. Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy.
18. Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.
19. Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch;
20. Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.
21. Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf?