Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 4:17-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy.

18. Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.

19. Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch;

20. Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.

21. Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf?

22. Canys y mae'n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o'r wasanaethferch, ac un o'r wraig rydd.

23. Eithr yr hwn oedd o'r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; a'r hwn oedd o'r wraig rydd, trwy'r addewid.

24. Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw'r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar:

25. Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i'r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a'i phlant.

26. Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll.

27. Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di'r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi ŵr.

28. A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid.

29. Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai'r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd.

30. Ond beth y mae'r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd.

31. Felly, frodyr, nid plant i'r wasanaethferch ydym, ond i'r wraig rydd.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 4