Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 4:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae'r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl;

2. Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad.

3. Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd:

4. Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf;

5. Fel y prynai'r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.

6. Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad.

7. Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.

8. Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.

9. Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?

10. Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 4