15. Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato.
16. I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i'w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i'w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i'th had di, yr hwn yw Crist.
17. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw'r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer.
18. Canys os o'r ddeddf y mae'r etifeddiaeth, nid yw haeach o'r addewid: ond Duw a'i rhad roddodd i Abraham trwy addewid.
19. Beth gan hynny yw'r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai'r had, i'r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr.
20. A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un.
21. A ydyw'r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o'r ddeddf y buasai cyfiawnder.
22. Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i'r rhai sydd yn credu.
23. Eithr cyn dyfod ffydd, y'n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i'r ffydd, yr hon oedd i'w datguddio.
24. Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd.
25. Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro.
26. Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu.