Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 3:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac na chyfiawnheir neb trwy'r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

12. A'r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna'r pethau hynny, a fydd byw ynddynt.

13. Crist a'n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren:

14. Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd.

15. Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato.

16. I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i'w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i'w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i'th had di, yr hwn yw Crist.

17. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw'r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer.

18. Canys os o'r ddeddf y mae'r etifeddiaeth, nid yw haeach o'r addewid: ond Duw a'i rhad roddodd i Abraham trwy addewid.

19. Beth gan hynny yw'r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai'r had, i'r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr.

20. A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un.

21. A ydyw'r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o'r ddeddf y buasai cyfiawnder.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 3