Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 3:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O y Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith?

2. Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd?

3. A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?

4. A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd.

5. Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae?

6. Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

7. Gwybyddwch felly mai'r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.

8. A'r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.

9. Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon.

10. Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i'w gwneuthur hwynt.

11. Ac na chyfiawnheir neb trwy'r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 3